Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Medi 2016

Amser: 09.15 - 12.26
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3718


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Simon Thomas AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Eluned Morgan AC

David Rees AC

Steffan Lewis AC

Nick Ramsay AC

Mark Reckless AC

Tystion:

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Hewitt, Llywodraeth Cymru

Gareth McMahon, Llywodraeth Cymru

Steve O'Donoghue, Swyddfa Archwilio Cymru

Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru

Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru

Matthew Hockridge, Swyddfa Archwilio Cymru

Staff y Pwyllgor:

Bethan Davies (Clerc)

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Christian Tipples (Ymchwilydd)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Lakshmi Narain (Cynghorwr Technegol)

 

<AI1>

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

3       Papurau i’w nodi

 

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI2>

<AI3>

4       Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru):  Sesiwn dystiolaeth 1

 

4.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

 

4.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ddarparu nodyn yn esbonio pam ei fod o'r farn bod gosod cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis i'r dyddiad ffeilio o 95 y cant o'r dreth sy'n ddyledus yn gymesur mewn perthynas â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol.

 

</AI3>

<AI4>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

 

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI4>

<AI5>

6       Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru):  Ystyried y dystiolaeth

 

6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI5>

<AI6>

7       Y diweddaraf am weithdrefnau'r gyllideb o ystyried trethi datganoledig

 

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 

</AI6>

<AI7>

8       Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi

 

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes.

 

</AI7>

<AI8>

9       Cyflwyno Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

 

9.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru gyflwyniad i'r Aelodau ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>